Beth fydd yn digwydd i'r wybodaeth rwy’n ei chyflwyno?
Caiff yr holl wybodaeth sy’n cael ei chyflwyno ei
hadolygu gan Catherine McKeag, Rheolwr Ymgysylltu â Dinasyddion yng Nghynulliad
Cenedlaethol Cymru. Yna caiff y wybodaeth ei dadansoddi a'i chyflwyno i'r
Pwyllgor fel Adroddiad Crynodeb o Ymgysylltu. Gall hyn fod ar ffurf dogfennau
ysgrifenedig, delweddau neu ffilm. Caiff yr adroddiad hwn ei gyhoeddi. Os
hoffech chi gael diweddariadau am hynt yr ymchwiliad hwn, cliciwch y botwm
[CLYWCH Y WYBODAETH DIWEDDARAF] yng nghornel dde uchaf y dudalen hon
Sut mae'r hyn rwy'n ei ddweud yn helpu'r ymchwiliad?
Mae'r Pwyllgor eisoes
wedi clywed gan randdeiliaid a sefydliadau yn y sector hwn, ac mae wedi
cynllunio taith i weld i ble mae gwastraff yn mynd. Fodd bynnag, mae'n bwysig
bod pobl Cymru hefyd yn gallu rhannu eu profiadau personol. Bydd hyn o werth i
aelodau'r Pwyllgor a'u hymchwiliad wrth iddynt awgrymu argymhellion addas i
Lywodraeth Cymru weithredu arnynt.
Beth mae'r Pwyllgor eisoes yn ei wybod?
Mae'r Pwyllgor wedi
gwrando ar arbenigwyr yn y sector hwn. Gallwch wylio'r cyfweliadau gyda
thystion ar Senedd.TV, a bydd ymgynghoriadau ysgrifenedig yn cael eu cyhoeddi
yn nes ymlaen.
I grynhoi, mae'r Pwyllgor eisoes wedi darganfod:
· Mae rhai cynghorau yn dal i ddibynnu ar safleoedd tirlenwi ond mae rhai ohonynt wedi bod yn gweithio'n galetach i ailgylchu mwy o'r deunyddiau y maen nhw'n eu casglu
· Mae ailgylchu ar gynnydd yng Nghymru ac mae'r dulliau’n fwy cyson
· Mae angen mwy o bwyslais ar atal gwastraff
Beth mae'r Pwyllgor eisiau ei wybod gennych chi?
Bydd y llwyfannau sy’n cael eu creu yn eich tywys drwy'r broses o gyflwyno
gwybodaeth. Hoffem i chi ganolbwyntio ar ateb y cwestiynau a ganlyn:
· Ydych chi'n gwybod i ble mae'ch gwastraff yn mynd ar ôl i chi ei roi yn y bin?
· A fyddai gwell gwybodaeth am yr hyn y mae modd ei ailgylchu yn eich helpu i ailgylchu mwy?
· A ydych chi'n gallu ailgylchu mwy nawr nag oeddech chi’n gallu ei ailgylchu yn y gorffennol?
· A fyddech chi'n dweud bod eich casgliad a'ch gwybodaeth am ailgylchu yn gyson?
· A ddylai fod llai o blastig untro o'r eiliad y byddwch chi'n prynu eitemau mewn siop neu ar-lein?
· A ydych chi'n defnyddio siopau di-blastig, neu a fyddech chi pe bai mwy ohonynt ar gael?
Sut allaf i gael mwy o wybodaeth am ailgylchu a rheoli gwastraff yn fy ardal?
Mae yna lawer o wefannau lle gallwch chi gael gwybodaeth, gan gynnwys, https://myrecyclingwales.org.uk/cy a https://www.recycleforwales.org.uk/cy/alla-i-ei-ailgylchu. Neu gallwch
gysylltu â'ch awdurdod lleol yn unigol. Dyma un wefan sy'n cynnig cyfeirlyfr i
bob awdurdod lleol, https://www.recycleforwales.org.uk/cy/ailgylchu-yn-fy-ardal.