Mae'r wefan hon wedi'i llunio gan y tîm yn Bang the Table Pty Ltd (Dolen allanol) ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Yn Bang the Table rydym yn awyddus i roi llais i bawb, ni waeth beth yw eu gallu neu eu gwybodaeth dechnegol. Rydym wedi ymgorffori cyngor arbenigol i sicrhau bod EngagementHQ (Dolen allanol), y llwyfan meddalwedd y mae'r wefan hon wedi'i llunio arno, yn bodloni, neu pan fo hynny'n bosibl, yn rhagori ar WCAG 2.0, y safon hygyrchedd gwe fyd-eang gyfredol (Dolen allanol).
Rydym hefyd yn darparu arweiniad i bob un o'n cleientiaid i sicrhau bod cynnwys eu gwefan hefyd yn bodloni'r safonau hyn.
Awgrymiadau Hygyrchedd
Yn ychwanegol at y camau yr ydym wedi'u cymryd i wneud y feddalwedd yn hygyrch i bawb; mae llawer o bobl yn debygol o gael y profiad mwyaf hygyrch o ddefnyddio'r wefan hon trwy addasu eu cyfrifiadur i weddu i'w hanghenion unigol. Er enghraifft: i gael y wefan wedi’i darllen iddynt, newid ei gynllun lliw, neu gynyddu maint ei ffontiau.
Os yw'n swnio fel y byddai hynny'n ddefnyddiol i chi, rydym yn argymell eich bod yn ymweld â'r wefan ragorol BBC My Web, My Way (Dolen allanol). Mae'n adnodd cynhwysfawr gyda fideos o sut y gallai'r addasiadau pwrpasol hyn fod yn addas i chi ac mae'n ymdrin â phynciau fel personoli'r gosodiadau gwe ar gyfer pobl sydd â:
Rhowch wybod i ni os ydych yn cael anawsterau wrth ddefnyddio'r wefan hon
Er ein bod wedi treulio llawer o amser yn sicrhau bod ein meddalwedd yn hygyrch, nid ydym yn berffaith! Os ydych yn ei chael hi'n anodd defnyddio unrhyw beth ar y wefan, rhowch wybod i ni trwy anfon e-bost i support@engagementhq.com(Dolen allanol).
I’n helpu i ddeall eich anhawster, byddai o gymorth i ni pe byddech yn darparu'r wybodaeth a gynghorir yn 'Contacting Organisations about Inaccessible Websites (Dolen allanol)' yn eich cais (yn enwedig fel yr amlinellir yn yr adran 'Describe the Problem (Dolen allanol)').
Ceisiwch gynnwys yr wybodaeth ganlynol yn eich e-bost atom o leiaf:
Croesewir yr holl adborth adeiladol ynghylch hygyrchedd neu ddefnyddioldeb y wefan hon yn fawr a chaiff ei ystyried yn ofalus.
Diolch