Pwy ydym ni
Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy'n rheoli data'r wybodaeth rydych yn ei rhoi, a bydd yn sicrhau y caiff y wybodaeth hon ei diogelu a'i defnyddio mewn ffordd sy'n dilyn y ddeddfwriaeth diogelu data. Dylid anfon unrhyw ymholiadau am y ffordd y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio at Swyddog Diogelu Data'r Cynulliad
Swyddog Diogelu Data
Tŷ Hywel
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
CF99 1NA
information-request@cynulliad.cymru
0300 200 6494
Pam rydym yn casglu eich gwybodaeth?
Rydym yn ymdrechu i ymgysylltu â phobl Cymru a’r cyhoedd yn ein gwaith, a thynnu eich sylw at weithgareddau a allai fod o ddiddordeb. Er mwyn gwneud hyn, rydym yn casglu gwybodaeth gan bobl rydym yn rhyngweithio â nhw yn bersonol ac ar-lein. Mae’r wybodaeth a gasglwn ar-lein trwy blatfform Engagement HQ Bang the Table yn dod o dan y categorïau canlynol:
Ein sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio eich gwybodaeth
Mae mwyafrif y wybodaeth yr ydym yn ei chasglu a’i defnyddio yn cael ei phrosesu at ddibenion tasgau sydd er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol a freiniwyd ynom ni, yn unol ag Erthygl 6(1)(e) o’r GDPR. Weithiau, fodd bynnag, byddwn yn dibynnu ar eich caniatâd i ddefnyddio’ch gwybodaeth, yn unol ag Erthygl 6(1)(a) o’r GDPR.
Gallwn hefyd brosesu data personol categori arbennig (h.y. sensitif). Diffinnir data personol categori arbennig yn y GDPR fel data sy’n cynnwys data personol sy’n datgelu tarddiad hil neu ethnig, barn wleidyddol, credoau crefyddol neu athronyddol, neu aelodaeth undeb llafur, a phrosesu data genetig, data biometreg, data sy’n ymwneud ag iechyd neu fywyd rhywiol neu gyfeiriadedd rhywiol person naturiol.
Pan fyddwn yn prosesu data categori arbennig, byddwn yn gwneud hynny ar y sail bod hynny’n angenrheidiol am resymau sydd o fudd sylweddol i'r cyhoedd, yn unol ag Erthygl 9(2)(g) o’r GDPR, a ddarllenir ar y cyd â pharagraff 6 o Atodlen 1 i Ddeddf Diogelu Data 2018. Mewn rhai achosion, efallai y byddwn hefyd yn dibynnu ar eich caniatâd penodol i ddefnyddio’ch gwybodaeth, yn unol ag Erthygl 9(2)(a) o’r GDPR.
Bang the Table
Rydym yn defnyddio platfform Engagement HQ Bang the Table i hwyluso sgwrs ar-lein ar wahanol faterion y mae’r Cynulliad yn craffu arnynt neu i roi adborth ar rai materion.
I gyfrannu, byddwn yn gofyn i bobl gofrestru ar y wefan ymlaen llaw. Gwnawn hyn er mwyn gallu rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y prosiect rydych chi wedi cymryd rhan ynddo. Os byddwn yn gofyn i bobl gofrestru ymlaen llaw, gofynnwn iddynt greu enw defnyddiwr a darparu eu cyfeiriad e-bost i ni.
Bydd yr enw defnyddiwr a ddewisir yn ymddangos pan fydd defnyddwyr yn cyfrannu ar y platfform, ond ni fydd yr holl wybodaeth arall y mae defnyddwyr yn ei darparu amdanynt eu hunain wrth gofrestru yn ymddangos yn gyhoeddus. Gall defnyddwyr reoli eu dewisiadau cyfrif yma: https://eichcymruchi.cynulliad.cymru/profile/edit
Gall defnyddwyr hefyd danysgrifio i gael y wybodaeth ddiweddaraf am brosiectau ymgysylltu unigol ar y platfform. I danysgrifio byddwn yn gofyn am gyfeiriad e-bost yr unigolyn. Bydd cyfeiriad e-bost y rhai sy’n tanysgrifio yn cael ei ddileu o’r platfform 6 mis ar ôl dyddiad cau’r prosiect. Gall defnyddwyr ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg yma: https://eichcymruchi.cynulliad.cymru/profile/subscriptions
Gan ddibynnu ar natur y prosiect a phwy rydym am gael ymateb ganddynt, gall y fforymau hyn gael eu rhedeg yn breifat neu'n gyhoeddus, a gallwn ddewis cymedroli ymatebion cyn iddynt ymddangos ar y wefan. Bydd y Cynulliad yn amlinellu a yw'r fforwm ar-lein yn cael ei gynnal yn agored, ac a oes cymedroli'n digwydd ar gyfer pob prosiect.
Os ydych chi’n ymateb i fforymau ar-lein sy’n cael eu rhedeg yn agored, bydd ymatebion, gan gynnwys yr enw defnyddiwr a ddewiswyd, unrhyw sylwadau a wneir, ac unrhyw gynnwys digidol y mae defnyddwyr yn ei atodi yn ymddangos yn gyhoeddus. Gall unrhyw un gymryd rhan mewn fforymau agored ar-lein (ar ôl iddynt gofrestru ar y wefan). Bydd unrhyw un yn gallu gweld cyfraniadau a wnaed mewn fforymau ar-lein agored, pa un a ydynt wedi cofrestru ar y safle ai peidio.
Wrth ymateb i fforwm caeedig, dim ond pobl eraill sydd wedi eu gwahodd i gymryd rhan all weld cyfraniadau a chymryd rhan.
Bydd cyfraniadau a wneir ar y platfform yn cael eu dileu 6 mis ar ôl y dyddiad cau ar gyfer ymateb. Ar ôl cyrraedd dyddiad gorffen y contract, bydd unrhyw wybodaeth sydd gan Bang the Table yn cael ei dileu ar ôl 90 diwrnod.
Mae manylion sy’n egluro sut y bydd Bang the Table yn defnyddio eich gwybodaeth ar gael ar eu gwefan. Gellir gweld eu polisi preifatrwydd yma: https://www.bangthetable.com/privacy-policy/
I gael manylion am ddiogelwch a phreifatrwydd Bang the Table ewch i: https://www.bangthetable.com/engagementhq/security
A fydd data personol yn cael ei rannu neu ei hysbysebu?
Gellir rhannu cyfraniadau ar fforymau cyhoeddus ag Aelodau’r Cynulliad a staff y Cynulliad, eu cyhoeddi ar ein gwefan, eu hyrwyddo ar draws sianeli cyfryngau cymdeithasol, ac ymddangos mewn adroddiadau perthnasol. Gall hyn gynnwys dyfyniadau uniongyrchol o ymatebion. Efallai y byddwn hefyd yn ymateb i ddefnyddwyr ac yn cyfathrebu â nhw am eu syniadau, cwestiynau a sylwadau. Bydd yr wybodaeth hon yn parhau'n gyhoeddus am gyfnod amhenodol.
Eich hawliau
Mae gennych hawliau penodol dros y wybodaeth rydym yn ei dal. Mae'r rhain yn cynnwys: yr hawl i weld y wybodaeth; i'w chywiro; i'w dileu; os yw'n anghywir; i gael gwared arni; ac i gyfyngu ar ein defnydd ohoni. Ni fydd yr holl hawliau hyn yn berthnasol ym mhob achos.
Os hoffech: arfer unrhyw un o'r hawliau sydd gennych o dan y ddeddfwriaeth diogelu data; gofyn cwestiwn; neu gwyno am y ffordd y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio; cysylltwch â Swyddog Diogelu Data y Comisiwn. Gellir gweld y manylion cyswllt uchod.
Gallwch hefyd gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth os ydych yn credu nad ydym wedi defnyddio eich gwybodaeth yn unol â’r gyfraith. Mae manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ar gael ar ei gwefan.
Ceisiadau am wybodaeth a wneir i’r Comisiwn
Os gwneir cais am wybodaeth o dan ddeddfwriaeth mynediad at wybodaeth, mae’n bosibl y bydd angen datgelu’r wybodaeth a gawsom gennych yn llawn neu’n rhannol. Gallai hynny gynnwys gwybodaeth a ddilëwyd yn flaenorol gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion cyhoeddi. Dim ond os yw’n ofynnol yn ôl y gyfraith y byddwn yn gwneud hynny.
Newidiadau i'r hysbysiad preifatrwydd hwn
Os bydd yr hysbysiad preifatrwydd hwn yn newid mewn unrhyw ffordd, byddwn yn rhoi'r fersiwn ddiweddaraf ar y dudalen hon. Drwy ymweld â'r dudalen hon yn rheolaidd, byddwch yn ymwybodol o'r wybodaeth rydym yn ei chasglu, sut rydym yn defnyddio'r wybodaeth honno ac o dan ba amgylchiadau y byddwn yn ei rhannu â phartïon eraill, os byddwn yn gwneud hynny o gwbl. Gellir cael copïau papur o’r hysbysiad preifatrwydd hefyd gan y Swyddog Diogelu Data.